
Mae’r Achos Ymneilltuol yn Abergorlech yn un o’r rhai hynaf yng Nghymru – yn ôl rhai dogfennau dechreuwyd yr achos yn Abergorlech yn 1655, ac fe wyddom o sicrwydd erbyn 1662 bod yr eglwys wedi ei chorffori fel cangen swyddogol o Eglwys Capel Isaac, neu Eglwys y Mynydd-bach fel y cyfeiriwyd at Eglwys Ymneilltuol Capel Isaac y pryd hynny.
Tebyg mai cyfarfod mewn tai annedd oedd yr Ymneilltuwyr cyntaf hynny gan na chodwyd capel yn Abergorlech tan tua 1740, a hynny yr ochr draw i’r Afon Cothi ym Mlaenddol, Plwyf Llanfynydd. Hyd yr amser hynny bu Abergorlech a Chapel Isaac mewn cysylltiad agos iawn a’i gilydd ac o dan ofal yn un gweinidog. Medrir rhestri ymhlith y gweinidogion cynnar hynny gewri’r ffydd ymneilltuol megis Stephen Hughes, Meidrym, Apostol Sir Gaerfyrddin, David Jones Llandysilio a Samuel Jones Llangynwyd. Ychydig yn anodd yw cael rhestr gywir o’r holl weinidogion a fu’n gwasanaethu yma ar ôl y tri gwron hyn ond fe wyddom fod yr eglwys wedi bod o dan ofal gweinidogion Pencader, Llanedi, Llanybri a Phant-teg ar wahanol adegau. Bu nifer o aelodau’r eglwys, pobl fel William Davies Cwmgigfran, hefyd yn gwasanaethu yma am flynyddoedd. Bu farw William Davies yn 1732 o’r dwymyn.
Yn ôl yr wybodaeth sydd ar glawr bu i Eglwys Abergorlech fodloni ar weinidogaeth achlysurol nifer fawr o weinidogion cymdogaethol hefyd, bugeiliaid fel Jonathan Jones o Rydybont a David Morgan o Esgairdawe a Ffaldybrenin. Tua 1800 (noder bod eglwys newydd wedi ei hadeiladu ym Mlaenddol yn 1781, adeilad mwy ei faint na’r capel cyntaf) urddwyd David Davies o Sardis. Bu yntau yn gwasanaethu tan 1824. Wedi i David Davies ymadael, rhoddodd yr eglwys alwad i eq \O(w,^)r ieuanc, doniol a gobeithiol yn ôl yr hanes, o ardal Trelech – Benjamin Griffith – bu’n llafurio’n galed ond bu farw mewn rhyw ddwy flynedd o’i ordeinio o’r ddarfodedigaeth. Fe’i claddwyd ym mynwent Hermon – ‘roedd y cysylltiad â Chapel Isaac wedi dod i ben erbyn hyn ac Abergorlech a Hermon bellach o dan yr un weinidogaeth.
1828, cant, saith deg a phump o flynyddoedd yn ôl – ‘roedd 16eg Mehefin 1828 yn ddiwrnod mawr yn hanes Eglwys Annibynnol Abergorlech. Nid yn unig dyma’r diwrnod yr urddwyd ac ordeiniwyd Thomas James, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, yn weinidog ond dyma hefyd pryd yr agorwyd Y Capel Newydd, trydydd adeilad Eglwys Annibynnol Abergorlech. Mae hanes yr oedfaon wedi eu croniclo’n ofalus, er enghraifft gwyddom mai ar Natur yr Eglwys y pregethwyd gan rhyw Mr M Jones o Drelech, a gofynnwyd yr holiadau arferol i’r gynulleidfa gan Mr S Griffith, Horeb.
Bu Thomas James yn gweinidogaethu yn Abergorlech am ryw chwe blynedd hyd nes ei adael yn 1834. Rhyfedd o anodd yw deall yn iawn y rheswm am ei adael – yn y dogfennau hanesyddol y cyfan a geir yw “oherwydd rhyw amgylchiadau”. Ond mae’n amlwg bod yna rywbeth bach wedi mynd o’i le yn yr eglwys ar yr adeg yma oherwydd yng nghofiant y gweinidog nesaf, Evan Jones Brychgoed, a fu’n gweinidogaethu ar Abergorlech a Chrugybar ar y cyd: “Roedd gweddillion arferion y tywyll oesau fel wedi ymgasglu i’r dyffryn hwn, ac yn cadw meddiant o’r lle – megis ymladd, codymu, troedio’r bel, a’r cyffelyb bethau. Yr oedd ysbryd y pethau hyn yn meddiannu y bobl, ac yn ymwthio i’r capel newydd”. Ond fe lwyddodd Evan Jones i arwain yr eglwys yn hynod lwyddiannus a chael yr eglwys nôl i drefn – yn wir yn ôl un llawysgrif daeth “tangnefedd i deyrnasu”! I ddangos maint y llwyddiant, mae’n debyg bod Evan Jones, yn ystod ei weinidogaeth, wedi derbyn dros gant a hanner o aelodau newydd i’r eglwys yn Abergorlech.
Yn Awst 1872 dechreuodd Mr T G Jones ei weinidogaeth, y tro hwn mewn cysylltiad â Gwernogle ac yn 1873 atgyweiriwyd y capel am y gost o £300. Ail-agorwyd y capel ar y 14eg a’r 15ed o Hydref.
Cynhaliwyd cyfarfodydd urddo’r Parch E G Rees ym mis Rhagfyr 1889 – y dydd cyntaf yn Carmel, Llansadwrn a’r ail ddiwrnod yma yn Abergorlech. Ac yn ôl erthygl a ymddangosodd yn Tywysydd y Plant “arweiniwyd Mr Rees i faes dymunol – dwy eglwys mewn gwlad amaethyddol – a’r bobl yn garedig”. Mae’n amlwg bod Abergorlech wedi gwella ers dyddiau Thomas James ar ddechrau’r ganrif! ‘Roedd gan yr eglwys barch mawr at Mr Rees – ac adeg ei briodas cyflwynodd yr eglwys “awrlais” costus iddo. Ac mae’n debyg bod Carmel hefyd wedi cyflwyno anerchiad prydferth iddo, gyda chod o aur! Yn ôl un adroddiad, roedd yr aelodau yn cydnabod “eu bod yn mwynhau yn fawr ei bregethau gloywon, efengylaidd ac adeiladol” a thystio ei fod yn “ onest, di‑dderbyn‑wyneb a ffyddlon i’r gwirionedd”. ‘Roedd hefyd yn ddirwestwr cadarn iawn iawn. Mae’n debyg bod yna dros gant a hanner o aelodau yn perthyn i’r achos dirwestol yn Abergorlech yr amser hynny. Hanesyn gwerth chweil yw bod y ddau dafarndy a oedd yn bodoli yn y gymdogaeth yr adeg honno yn perthyn i’r Eglwys Annibynnol hyd nes i E G Rees eu gwrthod a symud eu perchnogaeth i’r Eglwys Sefydledig!
Ac yna’r tri gweinidog a fu’n gwasanaethu ers y 30au. Y tri enw yn enwau cyfarwydd i lawer – yn gyntaf y Parchedig Dan Jones a fu yma am ryw dair blynedd yn ystod y tridegau. Un o blant ardal Bryn Iwan oedd Dan Jones a thystia llawer am ei ffyddlondeb i’w gyflawniadau fel gweinidog ar hyd ei yrfa, a’i deyrngarwch rhyfedd i’w Undeb ac i’n henwad.
Ordeiniwyd y Parch J Penry Edwards yn weinidog ar eglwysi Capel Newydd Abergorlech a Charmel Llansadwrn yn 1935. Ac yma y bu’n llafurio tan 1956 pan symudodd i fugeilio preiddiau Pentre Teq \O(y,^) Gwyn a Chefnarthen. Gwr o ardal Cwm Erfyn oedd Mr Edwards a soniai’n aml am y cynnig a gafodd pan yn fachgen ifanc ar fferm yn rhad ac am ddim, ar yr amod ei fod yn gadael y syniad o fod yn Weinidog. Temtasiwn yn sïwr ond ni ddiffoddwyd y fflam a chofir amdano am ei iaith lan, ysgrythurol, a’r ddawn i ddweud yn ddiddorol.
Ac yna’n olaf y Parchedig Idwal Rhys Evans, gweinidog yr eglwys hon o 1959 tan 1984, ar y cyd y tro yma ag eglwysi Gwernogle a Llidiadnennog. Gwr, yn ôl ei gydweinidogion, na fu ei fwynach na chywirach cyfaill yn y weinidogaeth a geq \O(w,^)r addfwyn a enillodd barch a serch ei aelodau a’i gydnabod. Fel y sonia J Towyn Jones yn ei deyrnged i Idwal Evans: “ni chwenychodd fwy ei hunan na meithrin gwladwyr ei Fro yn yr efengyl a’i wasanaeth cwbl anhunanol ac eang ….. pa beth allasai gydweddu’n well a’i gymeriad diddichell a phur na’r colomennod gwyn ehedent fel cylchennau o’i gwmpas yn y Mans yn Abergorlech yn ystod ei weinidogaeth glodwiw.” Hunodd yn sydyn yn 1991 yng Nghaer ac ar ôl gwasanaeth coffa iddo yma yng Nghapel Newydd Abergorlech, claddwyd ei lwch yn y fynwent.